DAVIES, THOMAS WITTON (1851 - 1923), Hebreigydd ac ysgolhaig Semitaidd

Enw: Thomas Witton Davies
Dyddiad geni: 1851
Dyddiad marw: 1923
Priod: Hilda Mabel Davies (née Everett)
Priod: Annie Davies
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: Hebreigydd ac ysgolhaig Semitaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Lewis Edward Valentine

Ganwyd 28 Chwefror 1851, yn Nant-y-glo, sir Fynwy, o rieni anllythrennog ond duwiol. Symudodd y teulu i Witton Park, swydd Durham, ac yno, yn yr ysgol-bob-dydd, y derbyniodd ef yr unig addysg a gafodd hyd nes troi ohono ei 21 oed. Yn 1872 derbyniwyd ef i Goleg y Bedyddwyr, Pontypwl, ac ar wahan i gyrsiau arferol y coleg myfyriodd yn ddiwyd yng ngweithiau Thomas Carlyle a Samuel Taylor Coleridge, a pharhaodd eu dylanwad arno trwy gydol ei oes. Yn 1879 aeth o Pontypwl i Goleg Regent's Park, Llundain, a Choleg Prifysgol Llundain, a dyfod yn y tymor hwn yn helaeth dan ddylanwad y Dr. James Martineau.

O 1879 hyd Ragfyr 1880 bu'n weinidog ar eglwys High Street, Merthyr Tydfil, ac o 1881 hyd 1891 yn athro yn y clasuron yng Ngholeg y Bedyddwyr yn Hwlffordd. O 1891 hyd 1898 ef oedd llywydd Coleg y Bedyddwyr yn Nottingham, ac yn ddarlithydd ym mhrifysgol y dref honno mewn Arabeg a Syrieg; yn ystod y tymor hwn bu am dymhorau yn rhai o brifysgolion yr Almaen, ac yn Leipsic am flwyddyn dan yr athrawon enwog Buhl, Socin, a Dalman. Bu'n ddisgybl hefyd i Sayce, yr ysgolhaig Asyriaidd, a threuliodd dymor yn Strasburg dan Noldeke. O 1898 hyd 1905 bu'n athro Hebraeg yng Ngholeg y Bedyddwyr ym Mangor, ac o 1905 hyd 1921 yn athro Hebraeg yng Ngholeg y Brifysgol.

Cyhoeddodd amryw erthyglau yn ymwneuthur ag astudiaeth Ddwyreiniol a Semitaidd yng nghyfnodolion yr Almaen a Lloegr ac America; erthyglau yn Y Geiriadur Beiblaidd, a Dictionary of the Bible (Hastings), Deuteronomy (Peake's Commentary), Magic, Divination and Demonology (James Clarke); Psalms, cyf. ii; ac Ezra, Nehemiah and Esther (Century Bible); Heinrich Ewald (T. Fisher Unwin); ac Ysgrythurau yr Hen Destament (Wrecsam). Daliai radd Doethur o Brifysgolion Leipsig a Jena. Daeth ei lyfrgell fawr i Lyfrgell Genedlaethol Cymru.

Bu'n briod ddwy waith: (1) 1880, i Mary Anne Moore, a fu farw ym 1910, gan adael un merch, a (2) 1911, â Hilda Mabel Everett, a chael mab a merch. Bu farw 12 Mai 1923.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.