DAVIS, WILLIAM ('Golden Farmer '; 1627 - 1690), lleidr-pen-ffordd

Enw: William Davis
Ffugenw: Golden Farmer
Dyddiad geni: 1627
Dyddiad marw: 1690
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: lleidr-pen-ffordd
Maes gweithgaredd: Cyfraith; Gwrthryfelwyr; Natur ac Amaethyddiaeth
Awdur: William Llewelyn Davies

Ganwyd yn Wrecsam. Symudodd yn gynnar yn ei oes i Sodbury, sir Gaerloyw, lle y priododd ferch i dafarnwr cefnog. Daeth yntau'n ffermwr cefnog eithr yr oedd ochr arall i'w gymeriad a'i fywyd - datblygodd yn lleidr-pen-ffordd o'r cyfrwysaf, gan lwyddo am flynyddoedd lawer i beidio cael ei adnabod yn y cymeriad hwnnw; ni wyddai ei wraig, hyd yn oed, ei fod yn amgenach na ffermwr llwyddiannus. Ceir yn y D.N.B. - a dyna ffynhonnell y nodyn byr hwn - fanylion am ddulliau Davis fel lleidr-pen-ffordd ac enwau rhai o'r mawrion ac eraill a gollodd eu harian, etc., iddo. Dywedir y byddai'n dwyn oddi ar ffermwyr a ddychwelai o'r farchnad neu pan aent i dalu eu rhenti. Dywed un awdur fod Davis ar un adeg mewn busnes fel marsiandwr ŷd yn Thames Street, Llundain - yn gwerthu yn ystod y dydd ac yn lladrata gyda'r nos. Saethodd gigydd yn Llundain, cafodd ei ddedfrydu i farw o'r herwydd (yn Sesiwn Llys yr Old Bailey, 11-17 Rhagfyr 1690); bu farw 22 Rhagfyr yr un flwyddyn a rhoddwyd ei gorff i hongian mewn cadwyni heyrn ar Bagshott Heath ychydig yn ddiweddarach. Gymaint oedd ei 'enwogrwydd' nes i'w yrfa ddod yn destun llyfrynnau, etc., a hyd yn oed un ddrama; enwir rhai ohonynt yn y rhestr ffynonellau a rydd y D.N.B.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.