DAWKINS, Syr WILLIAM BOYD (1837 - 1929), daearegwr a hynafiaethydd

Enw: William Boyd Dawkins
Dyddiad geni: 1837
Dyddiad marw: 1929
Priod: Mary Dawkins (née Poole)
Priod: Frances Dawkins (née Speke Evans)
Rhiant: Richard Dawkins
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: daearegwr a hynafiaethydd
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Natur ac Amaethyddiaeth; Ysgolheictod ac Ieithoedd; Gwyddoniaeth a Mathemateg
Awdur: Frederick John North

Ganwyd yn Buttington, gerllaw y Trallwng, 26 Rhagfyr 1837, yn fab Richard Dawkins, ficer Buttington. Cafodd ei addysg yn ysgol Rossall a Choleg Iesu, Rhydychen. Bu'n swyddog o dan y ' Geological Survey of Great Britain,' 1861-9, yn bennaeth y Manchester Museum, 1869, ac yn athro daeareg yn Owens College, Manceinion (sef Prifysgol Manceinion wedi hynny), 1874-1909. Fe'i hetholwyd yn F.G.S. (1861), yn F.R.S. (1867), ac yn gymrawd mygedol o Goleg Iesu, Rhydychen (1882). Cafodd fathodyn Lyell y Geological Society yn 1889, a bathodyn Prestwich yn 1918, a'i wneuthur yn farchog yn 1919. Priododd Frances, merch Robert Speke Evans, yn 1886, a Mary Poole yn 1922. Bu farw 15 Ionawr 1929 yn Bowdon, sir Gaer.

Yr oedd Dawkins yn arloesydd astudiaeth problemau ynglŷn â hynafiaeth dyn a phosibilrwydd digwydd i offer dynion cyntefig fod i'w cael yng nghyswllt â gweddillion anifeiliaid na cheir mo'u rhywogaeth mwy yn Ewrop. Dechreuodd yn 1866 gyhoeddi monograff yn ymwneud ag anifeiliaid tethog yn perthyn i'r cyfnod a elwir yn ' Pleistocene ' Prydeinig. Bu'n archwilio'r gwahanol fathau ar sylwedd a geid ar waelod llawr Wookey Cave (1857-61) a dangosodd i ddynion fod yn byw ynddi ar rai prydiau ac udfleiddiaid ar brydiau eraill yn y cyfnodau 'Pleistocene.' Gyda J. Magens Mello bu'n cloddio'r ogof yn Cresswell Crags gerllaw Worksop, a'r tro hwn eto profodd sut y bu dynion cyntefig yn cydoesi ag anifeiliaid na cheir mohonynt yn awr; darganfu asgwrn ag arno ysgythr-lun o ben ceffyl - yr enghraifft gyntaf i'w darganfod ym Mhrydain o gelf dyn-yr-ogof. Rhoddwyd crynodeb o'i waith yn y maes hwn yn Cave Hunting, 1874, a Early Man in Britain and his place in the Tertiary Period, 1880.

Pan yn gweithredu fel ymgynghorwr mewn daeareg i'r ' (English) Channel Tunnel Company ' yn 1882 awgrymodd ychwanegu at ddyfnder tylliad a wnaethpwyd gerllaw Dover, gan gredu y byddai gwneuthur hynny yn profi bodolaeth maes glo yn y rhan ddeddwyreiniol honno o Loegr. Daethpwyd at haenau glo rhwng 1,100 a 1,700 troedfedd i lawr a rhoes y darganfyddiad hwn gychwyn i ddatblygiad maes glo Caint.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.