Ganwyd yn Bodmin, Cernyw, yn 1825. Wedi cyfnod o addysg yn ysgol ramadeg Bodmin cafodd ei rwymo'n ddysgwr yn swyddfa tir-fesurydd cyngor ei dref enedigol. Wedyn bu'n un o swyddogion peirianyddol y Cornwall Railway Company. Tua'r flwyddyn 1850 dechreuodd wasanaethu John Taylor and Son, peirianwyr gweithydd mwyn, a roes arno'r cyfrifoldeb o adeiladu ffordd dram o'r Llangollen Slate Quarries hyd at y Shropshire Union Canal yn Llangollen. Bu am gyfnod yn Sbaen, mewn gweithydd plwm, eithr dychwelodd i sir Ddinbych a dyfod yn bennaeth glofa Brynyrowen, gerllaw Rhosllanerchrugog, eiddo John Taylor and Son. Rhoes y swydd hon i fyny yn 1857 ac ymuno â'i frawd-yng-nghyfraith, - Glennie, i ffurfio ffyrm o dir-fesuryddion a pheirianwyr mwnawl; daeth y bartneriaeth i ben yn 1870 eithr parhaodd Dennis i ddwyn y busnes ymlaen. Cloddiodd bwll glo Legacy a'i weithio am rai blynyddoedd. Wedi iddo adael Brynyrowen bu'n byw yn Hafod-y-bwch a symud, maes o law, i New Hall, Rhiwabon. Am tua hanner canrif bu'n flaenllaw gyda'r gwaith o gloddio pyllau glo, aildrefnu hen lofeydd, a sefydlu gweithydd terra-cotta, dŵr, a nwy. Ymestynnodd ei weithrediadau diwydiannol hyd at Sir Feirionnydd a thros y goror i Sir Amwythig, lle yr oedd yn gadeirydd y Snailbeach Lead Mines. Yr oedd hefyd yn gyfarwyddwr mewn-gofal y Glyn Valley Tramway ac yn gyfarwyddwr y Minera Mining Company. Â glofeydd Westminster (Broughton, gerllaw Wrecsam), Wrecsam, ac Acton (Rhosddu, Wrecsam), a Hafod (Rhiwabon), yr oedd a fynnai fwyaf. Pan oedd ei yrfa ar ei hanterth yr oedd Dennis yn rhoddi gwaith i dros 10,000 o bobl. Yr oedd yn aelod o'r Institution of Civil Engineers, yn gadeirydd y North Wales Coalowners' Association, a bu'n llywydd y Mining Association of Great Britain yn 1901. Gan fod ei holl fryd ar fusnes ychydig o amser a roddai i faterion llywodraeth leol, a gwrthododd sefyll fel aelod seneddol; modd bynnag, pan ffurfiwyd cyngor sir Ddinbych fe'i dewiswyd yn un o henaduriaid y sir, 'yn gydnabyddiaeth am ei allu neilltuol fel gŵr busnes ac fel arloesydd a chapten diwydiant.' Bu farw 24 Mehefin 1906 yn Laninval, ei gartref yn Bodmin, i'r lle yr aethai ychydig ddyddiau cyn hynny o'i gartref yng Nghymru; aeth 5,000 o bobl i'w gladdedigaeth ym mynwent Wrecsam.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.