DEVONALD, JOHN (1863 - 1936), cerddor

Enw: John Devonald
Dyddiad geni: 1863
Dyddiad marw: 1936
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerddor
Maes gweithgaredd: Eisteddfod; Cerddoriaeth; Perfformio
Awdur: Robert David Griffith

Ganwyd yn Aberdâr, 13 Mai 1863. Hanoedd o deulu cerddorol, a meddai ar lais da. Derbyniwyd ef yn aelod o Gôr Undebol Aberdâr pan oedd yn 11 oed. Enillodd yn eisteddfod Caerdydd 1883 ar ganu ' Is not his word like a fire ' (Handel). Dewiswyd ef yn aelod o'r Côr Undebol Cymreig a ffurfiwyd yn 1880 i berfformio oratorio ' Emanuel ' (Dr. Parry), yng Nghaergrawnt a Llundain, am ennill o'r cyfansoddwr y radd o ddoethur mewn cerddoriaeth. Yn 1885 penodwyd ef yn arweinydd canu capel Cymraeg Methodistiaid Calfinaidd Abercarn, ac yn 1887 symudodd i ofalu am y canu yng nghapel Cymraeg Broadmead, Bristol; efe hefyd a arweiniai gôr Cymraeg y dref. Enillodd ar ganu penillion yn eisteddfodau cenedlaethol 1895 a 1897 a phenodwyd ef yn feirniad canu gyda'r tannau yn eisteddfodau Barri a Port Talbot. Yn 1890 daeth yn ôl i Aberdâr, a ffurfiodd y ' Welsh Quartette ' yn 1894, ac am 15 mlynedd bu'n arwain ' Y Cymric Oriana ' a sefydlodd i ganu canigau a madrigaliaid. Ysgrifennodd 80 o ysgrifau i'r Cerddor rhwng 1930 a 1936 dan y pennawd ' Nodion o Ferthyr.' Bu farw 25 Medi 1936, a chladdwyd ef ym mynwent Aberfan.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.