DAVIES, DAVID ('Dewi Emlyn '; 1817 - 1888), gweinidog gyda'r Annibynwyr yn U.D.A., bardd, ac awdur

Enw: David Davies
Ffugenw: Dewi Emlyn
Dyddiad geni: 1817
Dyddiad marw: 1888
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Annibynwyr yn U.D.A., bardd, ac awdur
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Barddoniaeth
Awdur: Robert (Bob) Owen

Ganwyd 9 Tachwedd 1817, ym Mhant-y-garn, plwyf Cenarth, ac yn disgyn o deulu o feirdd ac ysgrifenwyr. Yr oedd yn aelod yng nghapel yr Annibynwyr yn Capel Iwan. Cafodd ei addysg yng Nghastell Newydd Emlyn a Choleg Abertawe, a bu'n athro ysgol.

Dechreuodd bregethu yn 1843, ymfudodd ef a'i wraig i America yn 1852, a'r un flwyddyn fe'i hordeiniwyd yn Paris, Portage, Ohio. Cafodd weinidogaeth hir - yn Tallmadge, Thomastown, a Brookfield, Ohio. Daeth yn adnabyddus fel bardd ymysg Cymry America; ysgrifennodd hefyd gyfres o erthyglau (i'r Cenhadwr, cylchgrawn misol ei enwad yn U.D.A.) sydd yn rhoddi llawer o hanes arloeswyr cynnar Pennsylvania. Bu farw 2 Awst 1888.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.