trigai yn Penrhyndeudraeth, Meirionnydd. Gwnaeth waith mawr fel athro canu, ac ymwelai ag eglwysi Llanfrothen, Llanfair, Llanbedr, Llandanwg, a Llanfihangel i ddysgu i'r cantorion ganu, a llafuriodd yn llwyddiannus i ddyrchafu a gwella cerddoriaeth eglwysig. Cyrchid ato o bell ac agos i dderbyn gwersi mewn cerddoriaeth. Flynyddoedd yn ôl wrth chwalu muriau eglwys Llanfrothen i'w hailadeiladu cafwyd seinbib yr hen athro.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/