EDMUNDS, MARY ANNE (1813 - 1858)

Enw: Mary Anne Edmunds
Dyddiad geni: 1813
Dyddiad marw: 1858
Priod: John Edmunds
Plentyn: William Edmunds
Rhiant: Mary Jones
Rhiant: William Jones
Rhyw: Benyw
Maes gweithgaredd: Addysg; Crefydd
Awdur: Thomas Roberts

Ganwyd 25 Ebrill 1813 yng Nghaerfyrddin, merch William a Mary Jones. Addysgwyd hi mewn ysgol breswyl. Manteisiodd yn helaeth hefyd ar yr addysg deuluaidd werthfawr a gafodd. Enillodd wybodaeth eithriadol o'r Ysgrythurau; darllenodd lyfrau sylweddol yn gyson, a daeth yn hyddysg yn emynyddiaeth Cymru.

Yr oedd yn rhagori ar y cyffredin o ran cyneddfau naturiol. Cadwodd am gyfnod o 20 mlynedd ddyddlyfrau Cymraeg i gofnodi, yn bennaf, ei theimladau crefyddol a'i gweddïau. Meistrolodd yr iaith Saesneg hefyd, a dengys y darnau o brydyddiaeth grefyddol Saesneg a gyfansoddodd iddi ddarllen gweithiau Gray a Cowper.

Ymroddodd i hyrwyddo achos addysg yng Nghymru pan oedd difaterwch ym meddyliau'r werin ynghylch yr angen am addysg. Daeth yn athrawes fedrus yn yr ysgol Sul, a bu ar hyd ei hoes yn ddiwyd a ffyddlon yng ngwaith cymdeithasau llên a dirwest.

Yr oedd er yn ieuanc yn awyddus i fod yn athrawes, ac wedi blynyddoedd o ymbaratoi, a chan rym penderfyniad diysgog, llwyddodd i ennill, mis Mawrth 1847, le yng Ngholeg Hyfforddi Cymdeithas yr Ysgolion Brutanaidd a Thramor yn Llundain. Cafodd yrfa foddhaol iawn yno, ac ym mis Hydref 1847 penodwyd hi i wasnaethu yn ysgol y Gymdeithas yn Rhuthyn. Yn Ionawr 1849 symudodd i gychwyn Ysgol Frutanaidd y Garth ym Mangor, a llafuriodd yn llwyddiannus yno am chwe blynedd.

Priododd, 1850, John Edmunds, 1815 - 1886 o Dyddewi, prifathro ysgol y Garth, a phrifathro ysgol yn Rhuthyn cyn hynny. Ganwyd iddynt ddau fab. Bu farw 22 Mawrth 1858, ac fe gychwynnodd ei gŵr fusnes yng Nghaernarfon wedi hynny, a bu ef farw yno 10 Mawrth 1886.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.