EDWARDS, THOMAS DAVID (1874 - 1930), cerddor

Enw: Thomas David Edwards
Dyddiad geni: 1874
Dyddiad marw: 1930
Rhiant: David Edwards
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerddor
Maes gweithgaredd: Crefydd; Cerddoriaeth; Perfformio
Awdur: Robert David Griffith

Ganwyd 15 Gorffennaf 1874, yn Pittson, Penn., U.D.A., mab David Edwards ('Iorwerth Glan Elyrch') a'i wraig a ymfudodd i'r America o ardal y Rhymni, sir Fynwy. Yn blentyn gwan ac eiddil, ni chafodd ond ychydig o ysgol. Daeth drosodd i Bontypridd, Sir Forgannwg, a llafuriodd yn galed i sicrhau gwybodaeth gerddorol. Enillodd y graddau cerddorol L.R.A.M., A.R.C.M., F.T.S.C.

Bu'n organydd eglwysi Salem, Porth, hyd 1909; Brynhyfryd, Treharris, 1909-24; Sardis, Pontypridd, 1924-8; a'r Tabernacl, Porthmadog, 1928-30. Yr oedd yn organydd medrus, a gelwid am ei wasanaeth ar hyd a lled y wlad i roddi perfformiadau cyhoeddus ar yr organ. Bu yn arweinydd corau Treharris, Pontypridd, a Phorthmadog, ac yn arweinydd cymanfaoedd canu a beirniad cerdd.

Cyfansoddodd lawer o gerddoriaeth, a bu ei anthem ' Dysg i mi Dy ffordd,' ei ' Shepherd's Lullaby,' a'i ganeuon, ' Bugeiles y Glyn ' a ' Cymru,' yn boblogaidd, ond enillodd ei boblogrwydd trwy ei dôn ' Rhydygroes ' ar yr emyn ' Duw mawr y rhyfeddodau maith.' Bu farw 15 Mawrth 1930 a chladdwyd ef ym mynwent Glyntaf, Pontypridd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.