Ganwyd 23 Tachwedd 1803 yng Nghorwen. Bu am rai blynyddoedd yn ddilledydd ym Mangor, ond yn 1840 cychwynnodd ffowndri haearn lwyddiannus ym Mhorthaethwy. Yn 1864 dechreuodd astudio bywyd pysgod; yng nghwrs ei ymchwiliadau dyfeisiodd welliannau pwysig yng ngwneuthuriad tanciau i gadw pysgod byw ynddynt; a mabwysiadwyd ei ddyfeisiau gan brif amgueddfeydd Prydain a gwledydd eraill. Bu farw 13 Awst 1879.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.