Ganwyd yn Little Darkgate Street, Aberystwyth, mab i John Edwards. Hanoedd o deulu cerddorol, ac yn ddyn ieuanc mynychai yntau eglwys Llanbadarn, lle y ceid canu rhagorol gan y côr. Symudodd y teulu i fyw i Blaenycwm, ger Capel Dewi, dewiswyd ef yn arweinydd canu yng nghapel y Methodistiaid, a pharhaodd i fod yn arweinydd am dros 70 o flynyddoedd. Daeth i Aberystwyth i ddilyn ei alwedigaeth fel crydd, a daeth i gyffyrddiad â nifer o gerddorion da a drigai yn y dref. Bu am ychydig yn byw yn Nhredegar, Mynwy, ond daeth yn ôl i Aberystwyth. Ffurfiodd gôr yn y Tabernacl, Aberystwyth, ac o dan ei arweiniad perfformiwyd y 'Messiah,' 'Creation,' 'Seasons,' a'r 'Twelfth Mass,' a chodwyd safon caniadaeth yn y dref. Bu farw 16 Medi 1897, a chladdwyd ef ym mynwent gyhoeddus Aberystwyth.
Mab Edward Edward, o Great Darkgate Street, Aberystwyth. Yr oedd yn ddatganwr da, ac a fu yn llanw swydd yn yr Unol Daleithiau fel datganwr; yr oedd yn eiddgar iawn ym mhlaid 'Esperanto.'
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.