Ganwyd yn Creigiau'r Bleiddiau, Cerrig-y-drudion. Yr oedd yn delynor medrus, a dywed Edward Jones ('Bardd y Brenin') ei fod yn meddu athrylith gerddorol naturiol ac yn chwaraewr melys ar y delyn. Y mae traddodiad yn yr ardal iddo farw'n sydyn â'i ddwylo yn dynn ar y tannau. Bu farw Mehefin 1766 a chladdwyd ef ym mynwent Cerrig-y-drudion.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.