Dywaid ef ei hun ei eni ar lan Hafren yng Ngwent, ac os ef yw'r John Edwards a ymaelododd yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, Ebrill 1624, yn 18 oed, gŵr o Caldecot ydoedd. Cymerodd ei B.A. yn 1626 a'i M.A. yn 1629. Yn ôl yr Alumni Oxonienses, penodwyd ef yn rheithor Llanfartin yn 1626, a chafodd dair bywoliaeth arall, sef Wilcryg yn 1631-2, Tredynog yn 1633, a Magwyr yn 1635, i gyd yng Ngwent. Awgryma rhai ein bod yma yn cael dau ŵr yn dwyn yr un enw, ond ni eill neb brofi hynny. Pa un bynnag, nid oes amheuaeth na bu'r cyfieithydd yn dal bywoliaeth Tredynog (neu Treredynog), ac fe'i collodd yn 1649. Ni wyddom pa bryd y bu farw Yn 1651, cyhoeddodd gyfieithiad o lyfr Edward Fisher, Marrow of Modern Divinity, sef Madruddyn y Difinyddiaeth Diweddaraf. [Nid oes sicrwydd mai Edward Fisher oedd awdur y Marrow.] Nid oedd Siôn Treredyn yn sicr o'r treigliadau, ond ar wahân i hynny, y mae'n gyfieithiad da, ac y mae cryn gamp ar yr arddull. Cyflwyna'r llyfr i foneddigion Gwent, ac wrth wneuthur hynny, dyry inni syniad am gyflwr yr iaith yn y rhanbarth.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.