EDWARDS, JOHN (fl. ail hanner y 17eg ganrif), pregethwr a Bedyddiwr rhydd-gymunol o'r Fenni, a chrydd wrth ei alwedigaeth

Enw: John Edwards
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: pregethwr a Bedyddiwr rhydd-gymunol o'r Fenni, a chrydd wrth ei alwedigaeth
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Crefydd
Awdur: Benjamin George Owens

Bedyddiwyd ef yn y Fenni 16 Mehefin 1653, ei ethol yn ddiacon ar brawf 29 Rhagfyr dilynol, a'r un mis yn bregethwr. Yr oedd yn amlwg yn y ddadl fawr ar fedydd yn y dref yr un flwyddyn, ac yn arwyddo'r ' Humble Representation and Address ' i Oliver Cromwell oddi wrth eglwysi'r Deheubarth a Mynwy yn 1656. Dewiswyd ef gan y profwyr i bregethu yn Llangors (yn Cathedin, medd Calamy), ond collodd ei le i'r offeiriad Thomas Morgan 9 Rhagfyr 1660. Bu'n ffyddlon i'w broffes ar waethaf holl galedi'r erledigaeth, ac ar 10 Awst 1672, yn sgil y ' Declaration of Indulgence,' trwyddedwyd ei gartref yn y Fenni yn addoldy. Ni wyddys pa bryd y bu farw, ond y mae sôn amdano mor ddiweddar â 1689-90 fel diacon yn eglwys Llangwm, Mynwy, 'yn ffyddlon yn ei swydd ond yn isel yn y byd.'

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.