EDWARDS, JOHN ('Meiriadog '; 1813 - 1906), bardd, llenor a golygydd

Enw: John Edwards
Ffugenw: Meiriadog
Dyddiad geni: 1813
Dyddiad marw: 1906
Priod: Elizabeth Edwards (née Watkin)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd, llenor a golygydd
Maes gweithgaredd: Eisteddfod; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Barddoniaeth; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: David Jenkins

Ganwyd yn Llanrwst, ac yn yr ysgol ramadeg yno y derbyniodd ei addysg cyn bwrw prentisiaeth fel argraffydd. Dangosodd dueddiadau llenyddol yn gynnar, a rhwng 1835 a 1860, yn arbennig, ymddangosodd llawer o'i farddoniaeth yn Seren Gomer, Y Dysgedydd, Y Diwygiwr, Y Gwladgarwr, a'r Drysorfa. Bu'n byw yn Cefn Mawr, Llanfaircaereinion, Caerdydd, a Merthyr Tydfil, cyn dychwelyd yn 1844 i Lanfaircaereinion lle y priododd Elizabeth Watkin. Yno y treuliodd weddill ei oes. Yr oedd yn Fedyddiwr Campbelaidd taer iawn, ac yn Rhyddfrydwr digymrodedd. Ystyrid ef yn ei ddydd yn awdurdod ar ramadeg a chystrawen Cymraeg, ac yn feistr ar reolau cynghanedd. Bu'n llwyddiannus iawn fel cystadleuydd eisteddfodol, gan ennill nifer o gadeiriau. Yr oedd hefyd yn feirniad poblogaidd. Bu'n olygydd Yr Hyfforddwr am gyfnod (o 1852), a'r Llusern o 1858. Bu farw 24 Gorffennaf 1906 yn 93 mlwydd oed. Cyflwynwyd ei lawysgrifau i'r Llyfrgell Genedlaethol yn 1926.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.