Ganwyd yn Goytre yn 1743. Wedi marw ei dad (y Parch. Thomas Edwards, Llanwenarth) yn 1746 symudodd ei fam i Bontypŵl ac yno (ym Mhenygarn yn 1766) y dechreuodd bregethu. Wedi ei hyfforddi yn Nhrosnant, Llanllieni, a Choleg y Bedyddwyr, Bryste, ordeiniwyd ef yn 1755 yn weinidog cynorthwyol Bethesda, Maesaleg. Yn 1776 etholwyd ef yn weinidog ar eglwys newydd a ymgynullasai yn ei dŷ, y Wern, ger Pontypŵl, ac a ymsefydlodd yn Nhrosnant Uchaf yn 1779. Yno y gweinidogaethodd hyd ei farwolaeth ar 25 Medi 1808, a'i gladdu ym mynwent y capel.
Ystyrid Miles Edwards yn ysgolhaig da ac yn bregethwr effeithiol yn Gymraeg a Saesneg. Teithiai'n fynych i bregethu, ac yn achlysurol gweinidogaethai i gynulleidfa yn Coleford. Er mai Jonathan Edwards, efallai, oedd ei hoff ddiwinydd, Calfiniaeth wedi ei thymheru'n helaeth oedd ei ddiwinyddiaeth, ac yn ddiamau bu ei ddylanwad yn gymorth i ryddhau pulpud y Bedyddwyr Cymreig o gaethiwed athrawiaethol ac apêl gyfyngedig gor- Galfiniaeth y cyfnod. Disgrifiwyd ef fel 'a faithful minister of Christ for more than forty years' a hefyd 'an ornament to the Church of God.'
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.