EDWARDS, Syr WILLIAM RICE (1862 - 1923), llawfeddyg a chyfarwyddwr cyffredinol gwasanaeth meddygol India

Enw: William Rice Edwards
Dyddiad geni: 1862
Dyddiad marw: 1923
Rhiant: H. Powell Edwards
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: llawfeddyg a chyfarwyddwr cyffredinol gwasanaeth meddygol India
Maes gweithgaredd: Meddygaeth
Awdur: Idwal Lewis

Ganwyd yng Nghaerlleon, sir Fynwy, 17 Mai 1862, mab y canon H. Powell Edwards. Addysgwyd ef yn Ysgol Coleg Madlen, Rhydychen, Coleg Clifton, a'r London Hospital. Enillodd radd M.D. yn 1886, a'r flwyddyn honno ymunodd â gwasanaeth meddygol India fel llawfeddyg, a gweithio yn nhalaith Bengal. Yn 1890, fe'i penodwyd yn llawfeddyg personol i'r arglwydd Roberts, ac arhosodd gydag ef am bedair blynedd. Wedi i'r arglwydd Roberts symud o'r India aeth Edwards i'r adran wleidyddol, ond yn 1899, pan benodwyd Roberts yn gadfridog yn Ne Affrig, dewiswyd Edwards yn aelod o'i staff, a gwasnaethodd yn rhyfel De Affrig, 1899-1900. Dychwelodd i'r India, yn llawfeddyg yn Kashmir, ac ymhen naw mlynedd dyrchafwyd ef yn brif swyddog meddygol talaith gogledd-orllewin India, ac yn 1915 yn brif llawfeddyg cyffredinol Bengal. Yn 1918, fe'i penodwyd yn gyfarwyddwr cyffredinol gwasanaeth meddygol India, a bu yn y swydd honno hyd ei ymddiswyddiad yn 1923. Dyma gyfnod pwysig yn hanes llywodraeth India, ac Edwards a fu'n gyfrifol am drefnu a chyfarwyddo gwasanaeth meddygol India a'i drosglwyddo i ddwylo'r trigolion. Yr oedd iddo barch mawr fel cynghorwr a meddyg ac fel trefnydd manwl ac effeithiol. Bu'n briod ddwywaith. Bu farw yn Llundain 13 Hydref 1923.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.