Bedyddiwyd ef ym Mrynbuga 5 Awst 1768, mab Lloyd Pittel Edwards, ysgolfeistr ac organydd ym Mrynbuga a'r Fenni, a'i wraig Mary (? Reece o Lantilio Croesenni).
Daeth ei fedr fel tynnwr lluniau ag ef i sylw William Curtis, llysieuydd a phryfegydd, a'i hanfonodd ef i Lundain i ddysgu'r gelfyddyd o arlunio.
Rhwng 1798 a 1814 cyfrannodd Edwards y mwyafrif o'r darluniau ar gyfer The Botanical Magazine ac amryw ar gyfer Flora Londinensis. Cyhoeddodd chwe rhifyn, 1800-5, o Cynographia Britannica, yn cynnwys ysgythriadau lliw yn dangos y gwahanol fathau o gwn a fegid ym Mhrydain Fawr, a darparodd y darluniau ar gyfer The New Botanic Garden, 1805-7, a ailgyhoeddwyd yn 1812 o dan yr enw The New Flora Britannica. Torrodd ei gysylltiad â The Botanical Magazine yn 1814, gan ddechrau The Botanical Register. Dangoswyd 12 o'i ddarluniau yn y Royal Academy rhwng 1792 a 1814.
Y mae nifer o ddarluniau dyfrlliw o'i eiddo ac o ysgythriadau o'i waith, y mwyafrif ohonynt yn ddarluniau o adar, anifeiliaid, a llysiau, ar gael heddiw mewn casgliadau preifat yng Nghymru ac yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Amgueddfa Genedlaethol Cymru, yr Amgueddfa Brydeinig, ac Amgueddfa South Kensington.
Bu farw 8 Chwefror 1819 a chladdwyd ef yn hen eglwys Chelsea.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.