Ganwyd yn Llanllechid, Sir Gaernarfon. Bu yn yr ysgol ym Mangor ac yna yn 1670 aeth i Goleg S. Ioan, Caergrawnt, gan raddio'n B.A. yn 1673 ac yn M.A. yn 1677. Am beth amser, hyd oni bu farw'r Dr. Edmund Castell yn 1685, bu'n byw gyda'r athro Arabeg dysgedig hwnnw yng Nghaergrawnt. Yna daeth yn gaplan Christ Church, Rhydychen, a hynny, y mae'n ymddangos, er mwyn arolygu'r Testament Newydd Copteg, gwaith a ataliesid oherwydd marw'r golygydd, Dr. Thomas Marshall, yn 1675. Pan fu farw ei noddwr, Dr. John Fell, esgob Rhydychen, yn 1686 (yr hwn, yn ôl Schwartze, a'i cymhellodd i astudio Copteg), ataliwyd pob cyhoeddi pellach ar y Testament Newydd, ac ni fu'n abl i gyhoeddi hyd yn oed gynllun ei eiriadur Copteg mewn llawysgrif, a grynhowyd o amryw ffynonellau ac a gedwir yn Llyfrgell Bodley. Bu'n ficer Badby, swydd Northampton, o 1690 hyd 1708, ac yna'n rheithor Aldwinckle All Saints hyd ei farwolaeth 5 Medi 1721.
Ymddengys mai dau waith yn unig a gyhoeddodd - A Discourse against Extempore Prayer (8vo, Llundain, 1703), gwaith y cyfeiriwyd ato gan Edward Calamy yn y fath fodd fel ag i'w gynhyrfu i ysgrifennu Diocesan Episcopacy proved from Holy Scripture …(8vo, Llundain, 1705).
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.