EDWARDS, HENRY THOMAS (1837 - 1884), deon Bangor

Enw: Henry Thomas Edwards
Dyddiad geni: 1837
Dyddiad marw: 1884
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: deon Bangor
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Brawd hŷn i'r archesgob A. G. Edwards. Ganwyd yn Llan-ym-Mawddwy, Sir Feirionnydd, 6 Medi 1837. Ar ôl addysg fore fylchog, aeth i Rydychen (yn gyntaf i Christ Church, ac yna i Goleg Iesu), a graddiodd yn 1861, ond lluddiwyd ef gan waeledd rhag ymgymryd â'r cwrs anrhydedd terfynol yn y clasuron. Wedi bwrw rhai misoedd yn athro yn Llanymddyfri, bu'n gurad i'w dad yn Llangollen o 1861 hyd 1866.

Penodwyd ef wedyn yn ficer plwyf poblog Aberdâr (1866-9), ac yna'n ficer Caernarfon (1869-76). Yno, ymroes ar unwaith i ddadlau ym mhlaid rhoi addysg grefyddol yn yr ysgolion beunyddiol, a hefyd i filwrio yn erbyn y mudiad i ddatgysylltu'r Eglwys - yn hollol ar wahân i fuddiannau'r Eglwys yng Nghymru fel y cyfryw, yr oedd ganddo gred gref mewn 'sefydliad crefyddol' fel egwyddor. Ond gyda'r golygiadau hyn, a'i harweiniodd i wrthdaro â'r Ymneilltuwyr, cyfunai Edwards wladgarwch tanbaid, a oedd ar brydiau'n dân ar groen rhai o'i gyd Eglwyswyr. Anfonodd lythyr maith at Gladstone yn 1869 (cyhoeddwyd ef yn 1870 dan y teitl The Church of the Cymry), a briodolai ymddieithriad ei gyd-genedl oddi wrth yr Eglwys i'r driniaeth a roes Llywodraeth Lloegr yn y gorffennol i'r iaith Gymraeg ac i Gymry o iaith a geisiodd ddiwygio'r Eglwys. Efallai nad yw esboniad y llythyr hwn ar bethau'n gwbl gyflawn, ond credir mai iddo ef y mae'n ddyledus na phenododd y Goron, tra bu'r Eglwys yn sefydledig, byth wedyn esgob yng Nghymru na fedrai Gymraeg.

Yn ddiweddarach, ac ef bellach, ers 1876, yn ddeon Bangor, daliodd Edwards i bleidio Cymreigrwydd yn yr Eglwys; hyn oedd testun ei anerchiad i gyngres yr Eglwys yn Abertawe yn 1879; bryd arall, beirniadai'r paratoad a roddid i'r clerigwyr Cymreig - nad oedd, yn ei farn ef, yn meithrin dull gwir Gymreig o feddwl ac o fynegiant. Protestiodd yn gryf (ond yn ofer) yn erbyn taflu gwaddol Cymreig Coleg Iesu 'n agored i fyfyrwyr nad oeddynt yn Gymry. Yn 1883, gweithiodd yn selog dros sefydlu Coleg Prifysgol yng Ngogledd Cymru - ar yr olwg gyntaf, syn braidd oedd ei weld yn dadlau y dylai'r coleg hwn fod yn gwbl 'secular' (ac yn ddibreswyl), ond nid oedd anghysondeb gwirioneddol yn hynny.

Torrwyd y deon i lawr ym mlodau ei ddyddiau. Ar hyd ei yrfa, bu'n ansad ei iechyd; yn fachgen, sylwyd ar ei ' nervous excitability '; methodd fynd â'i faen i'r wal yn Rhydychen; torrodd i lawr yn Aberdâr; bylchwyd dwy briodas iddo ymhen byr amser; bu bron iddo farw o'r ' typhoid fever ' yn 1882. O'r diwedd, bu'r pregethu a'r areithio a'r sgrifennu diorffwys yn drech nag ef; yn 1884 cafodd ysbaid hir o ddiffyg cwsg, ac ar 24 Mai 1884 rhoes ddiwedd arno'i hunan yn Rhiwabon.

Cyhoeddwyd casgliad o'i anerchiadau yn 1889, dan y teitl Wales and the Welsh Church, gyda chofiant byr gan David Jones hwnnw yw prif ffynhonnell yr ysgrif bresennol.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.