EDWARDS, THOMAS ('Gwynedd '; 1844 - 1924), offeiriad ac eisteddfodwr

Enw: Thomas Edwards
Ffugenw: Gwynedd
Dyddiad geni: 1844
Dyddiad marw: 1924
Rhiant: Jane Edwards
Rhiant: Henry Edwards
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: offeiriad ac eisteddfodwr
Maes gweithgaredd: Crefydd; Eisteddfod
Awdur: Thomas Iorwerth Ellis

Ganwyd 8 Ebrill 1844, yn Glasinfryn, Pentir, Bangor; mab Henry Edwards, ysgolfeistr, a Jane ei wraig. Addysgwyd ef yng Ngholeg S. Bees, a'i urddo yn ddiacon Mehefin 1867 gan yr esgob Campbell o Fangor, ac yn offeiriad yn 1868; bu'n gurad yn Llandegfan, 1867-72, ac yn Nwygyfylchi, 1872-6. Dyrchafwyd ef yn rheithor Llanfihangel-y-pennant 1876, Llanllyfni 1891, ac Aber (ger Bangor) 1901. Bu'n arholydd ysgolion 1880-9, ac yn ganon o eglwys gadeiriol Bangor (heb drigiannu) 1908-24. Bu farw 10 Rhagfyr 1924, a'i gladdu ym mynwent Aber.

Bu'n drysorydd Gorsedd y Beirdd dan yr enw ' Gwynedd,' o 1902 hyd ei farw.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.