EDWARDS, WILLIAM (1848 - 1929), gweinidog a phrifathro gyda'r Bedyddwyr

Enw: William Edwards
Dyddiad geni: 1848
Dyddiad marw: 1929
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog a phrifathro gyda'r Bedyddwyr
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg
Awdur: John Williams Hughes

Ganwyd yn Llanafon, Login, Sir Gaerfyrddin, 16 Mawrth 1848, yn fab i dorrwr cerrig beddau. O athrofa Pontypwl aeth i Goleg Regent's Park; graddiodd ym Mhrifysgol Llundain a bu'n athro yn athrofa Hwlffordd o 1872 hyd 1880, pan ddychwelodd i Bontypwl yn brifathro ac yn athro Groeg y Testament Newydd. Yn 1882 bu'n flaenllaw gyda'r mudiad i sefydlu Coleg y Brifysgol yng Nghaerdydd (bu'n aelod o gyngor y coleg am weddill ei fywyd), a thrwy ei ymdrechion ef yn bennaf y symudwyd athrofa Pontypwl yn 1893 i Gaerdydd.

Cyhoeddodd lawer o fân lyfrau, ond ei brif waith oedd y Cyfieithiad Newydd o'r Testament Newydd (pedair cyfrol, 1894, 1898, 1913 a 1915), gyda nodiadau beirniadol ac ysgrifau arweiniol. Yn ei enwad, yr oedd yn drefnydd dyfal; bu'n llywydd Undeb y Bedyddwyr yng Nghymru yn 1906, ac yn llywydd Undeb Bedyddwyr y Deyrnas yn 1911. Yn ei wleidyddiaeth, Rhyddfrydwr a datgysylltwr selog oedd ef, a siaradwr huawdl ar y llwyfan. Cafodd radd LL.D. 'er anrhydedd' gan Brifysgol Cymru yn 1925. Bu farw 28 Chwefror 1929.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.