Ganwyd Tachwedd 1792 yn Brynteg, Cil-y-cwm, mab Dafydd Elias a Mary ei wraig. Yn 10 oed prentisiwyd ef i deiliwr yn Llanwrtyd. Yn 14 oed, aeth i Ferthyr Tydfil, ond dychwelodd ymhen ychydig flynyddoedd, priododd, a dechreuodd bregethu yn 1822 - ordeiniwyd ef yn 1831. Yn ei flynyddoedd olaf preswyliai ym Mhont Senni, lle y bu farw 14 Mawrth 1855, yn 62 oed. Y mae ganddo gywydd yn Seren Gomer, 1821, 214, a chyhoeddwyd casgliad (Merthyr Tydfil, 1856) o'i emynau, a ' Braslun o hanes bywyd yr awdur.'
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/