ELLIS, LEWIS (1761 - 1823), cerddor ac offerynnwr

Enw: Lewis Ellis
Dyddiad geni: 1761
Dyddiad marw: 1823
Plentyn: Richard Ellis
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerddor ac offerynnwr
Maes gweithgaredd: Cerddoriaeth; Perfformio
Awdur: Robert David Griffith

Ganwyd yn Llansadwrn, sir Fôn. Efe oedd arweinydd y canu yn eglwys Biwmares, a chwaraeai ef a'i feibion wahanol offerynnau yng ngwasanaeth yr eglwys. Tua 1787 adeiladodd organ yn ei dŷ ei hun ym Mhentŵr, Henblas, yr organ gyntaf i'w hadeiladu ym Môn. Yn 1796 symudodd yr organ o'i dŷ a'i hadeiladu yn eglwys Biwmares. Ceir y cofnod hwn yn llyfr cyfrifon corfforaeth Biwmares - 'Year ended Michaelmas 1796. - Voucher, Lewis Ellis for what ordered to be given him out of the Corporation Fund, towards satisfying him for an organ built by him for the use of Beaumaris Church, £10 10. 0.'. Efe oedd organydd yr eglwys hyd 1800. Bu farw 25 Mawrth 1823, a chladdwyd ef ym mynwent yr eglwys.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.