Fe wnaethoch chi chwilio am Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray
Bedyddiwyd yn Eglwys Llanllyfni 20 Hydref 1805, mab Ellis ac Ann Dafydd, Penbryn Bach, Llanllyfni. Priododd Catherine Williams, Llandwrog, yn 1830, a bu iddynt saith o blant.
Yr oedd yn brydydd yn ogystal â chlochydd, ac adwaenid ef wrth yr enw ' Llyfnwy.' Cyhoeddodd Lloffion Awen Llyfnwy (1852), sef casgliad o'i gerddi, ond eddyf yn ei ragymadrodd nad yw'n 'ymestyn at ddim goruchafiaeth,' gan na chafodd un chwarter o ysgol erioed. Cyfansoddodd laweroedd o garolau, ac yn arbennig ar gyfer y plygain blynyddol yn eglwys y plwyf. Canai yn y dull carolaidd cynganeddol, ac yntau'n un o'r rhai diwethaf i ymarfer y fath ddull. Cyhoeddwyd casgliad o'i garolau ar ôl ei farw, sef Carolau Awen Llyfnwy. Yr oedd yn englynwr medrus, a gwelir llawer o'i englynion ar feddfeini Llanllyfni a'r cylch.
Ni chyfyngid ei ddiddordeb i brydyddiaeth, canys yr oedd hefyd yn gerddor; ef a arweiniai gerddorfa eglwys Llanllyfni. Bu farw 14 Ebrill 1872, wedi gwasnaethu mewn 2,556 o angladdau.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.