ELLIS, ROWLAND (1841 - 1911), esgob Aberdeen ac Ynysoedd Orch;

Enw: Rowland Ellis
Dyddiad geni: 1841
Dyddiad marw: 1911
Priod: Margaret Elizabeth Ellis (née Brydon)
Rhiant: Thomas Ellis
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: esgob
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Walter Thomas Morgan

Ganwyd 24 Ebrill 1841, mab Thomas Ellis, llawfeddyg, Caerwys. Addysgwyd ef yn ysgol ramadeg Rhuthyn a Choleg Iesu, Rhydychen, lle y graddiodd yn 1863. Daeth yn gurad Gresford, 1864, ficer Gwersyllt, 1868, a ficer yr Wyddgrug, 1872. Rhwng 1873 a 1884 gweithredodd fel deon gwlad yr Wyddgrug. Yn y cyfnod hwn ymwelai yn aml â W. E. Gladstone yng nghastell Penarlâg. Priododd yn 1869 Margaret Elizabeth, merch hynaf y llawfeddyg-filwriad William Brydon, C.B. O 1884 hyd ei benodi yn esgob yn 1906 bu yn rheithor eglwys S. Paul, Edinburgh. Brwydrodd yn egnïol yn erbyn datgysylltiad yr Eglwys yng Nghymru, ac oherwydd ei wybodaeth drwyadl o Gymru daeth yn amddiffynnydd cadarn i hawliau'r Eglwys. Ysgrifennodd nifer o weithiau diwinyddol. Bu farw yng nghastell Delgaty, Turiff, swydd Aberdeen, 11 Rhagfyr 1911.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.