Ganwyd ym Melinrhyd, Cyfronydd, Sir Drefaldwyn, yng ngwanwyn 1803, yn un o wyth plentyn Hugh Ellis, melinydd, saer melinau, ac adeiladydd. Aeth i'r ysgol yn Llanfair Caereinion, a daeth ei ddawn at wneud dyfeisiadau mecanyddol i'r amlwg yn gynnar. Yn 1826 aeth i Fanceinion ac yno yn 1832 ffurfiodd bartneriaeth ag un Mr. Norton i weithio ffowndri. Daeth y bartneriaeth i ben yn 1838, ac fe brynodd Ellis ffowndri haearn fawr - sef gweithiau Irwell yn Salford. Ym Mehefin 1843 cafodd hawlfraint ar wneuthur math ar drofwrdd a pheiriant pwyso i'r rheilffordd. Daeth felly i sylw Robert Stephenson a thrwyddo ef i sylw'r cyfalafwr Kennard. Yn 1847 lluniodd ddyfais a hwylusodd ddefnyddio craeniau symudol ar y rheilffordd. Yn 1848 prynodd y Palace Mill, Llan-ym-Mawddwy. Yr oedd yn amlwg ym mywyd cyhoeddus Salford ac yn aelod o'r cyngor tref yno. Bu farw 6 Ebrill 1852, a'i gladdu yn eglwys Pendlebury, Manchester.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.