Ganwyd yn y Felindre, Penboyr, 2 Medi 1755; enw ei dad oedd Thomas Evans. Gadwyd ei yn amddifad ond magwyd ef yn wehydd gan ewythr. Yn 1773, ymunodd â'r seiat yng Ngwern-yr-hafod, ac aeth i academi Caerfyrddin, ond ni lwyddodd i gael urddau. Yn 1782 dechreuodd bregethu, a thua'r un adeg priododd (bu ganddo bedwar o blant), ac aeth i gadw ysgol yng Nghynwyl. Wedyn, cymerodd dyddyn Waunlwyd, a bu yno 27 mlynedd. Yr oedd yn un o'r 13 a ordeiniwyd yn Llandeilo Fawr yn 1811. Bu farw 20 Ebrill 1837. Nid ystyrid ef yn bregethwr neilltuol dda, ond yr oedd yn drefnydd nodedig, a bu'n ysgrifennydd ei gyfarfod misol am chwarter canrif. Efe oedd awdur y pennill enwog 'Dyro afael ar y bywyd.'
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.