EVANS, BENJAMIN (1816 - 1886), gweinidog gyda'r Bedyddwyr, ac awdur

Enw: Benjamin Evans
Dyddiad geni: 1816
Dyddiad marw: 1886
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Bedyddwyr, ac awdur
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd yn y Drefach, Ceredigion, 2 Tachwedd 1816, ond symudodd ei rieni i Dredegar. Bu yn athrofa Pontypŵl (1839-42), ac wedyn yn weinidog ar Hirwaun (1842-57), yn Aberdâr (1857-61), ac yng Nghastell Nedd (1861-86). Sgrifennai lawer i'r Wasg, ac o 1860 hyd 1869 bu'n gydolygydd Y Gwyliedydd, misolyn i'r Bedyddwyr. Bu farw 4 Tachwedd 1886.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.