EVANS, JOHN CEREDIG (1855 - 1936), cenhadwr o dan y Methodistiaid Calfinaidd yn yr India, athro, ac awdur

Enw: John Ceredig Evans
Dyddiad geni: 1855
Dyddiad marw: 1936
Priod: Sarah Evans (née Williams)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cenhadwr o dan y Methodistiaid Calfinaidd yn yr India, athro, ac awdur
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Evan Lewis Evans

Ganwyd yn y Cei Newydd, Sir Aberteifi, ym Mawrth, 1855. Derbyniodd ei addysg fore yn y lle, ac wedi tymor ar y môr aeth yn 21 oed i ysgol ramadeg Llandysul i baratoi ar gyfer y weinidogaeth Gristionogol, ac oddi yno ymlaen i Goleg Prifysgol Cymru yn Aberystwyth, ac i Brifysgol Glasgow. Ordeiniwyd ef yn 1885, a chymerth ofal Gilead, Nant-y-moel. Ac yntau'n briod â Sarah Williams o Landysul, fe'i cynigiodd ei hun i'r Genhadaeth Dramor, gan hwylio i'r India yn 1887. Apwyntiwyd ef yn bennaeth Ysgol Normal, Cherra, ar Fryniau Khasia, a bu'n dysgu yn y coleg diwinyddol. Pan unwyd yr Ysgol Normal ac Ysgol Uwchradd y Llywodraeth yn Shillong yn 1891, rhoed ef yn ben arni, a daliodd y swydd hon am 25 mlynedd. Ar yr un pryd gofalodd am nifer o eglwysi 'r cylch, ac ef oedd trysorydd lleol y genhadaeth yn yr India. Cynorthwyodd gyda'r cyfieithiad diwygiedig o'r Beibl Khasi, a chyhoeddodd argraffiad newydd o'u Llyfr Emynau. Anrhydeddwyd ef ddwywaith gan y Llywodraeth, a dewiswyd ef yn aelod o'r Senedd. Yn 1921 etholwyd ef yng Nghymru yn llywydd y gymanfa gyffredinol ac i gadair y gynhadledd Saesneg. Bu farw yn y Cei Newydd ar 22 Mai 1936.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.