EVANS, JOHN DANIEL (1862 - 1943), gwladychydd cynnar ym Mhatagonia

Enw: John Daniel Evans
Dyddiad geni: 1862
Dyddiad marw: 1943
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gwladychydd cynnar ym Mhatagonia
Maes gweithgaredd: Teithio
Awdur: Richard Bryn Williams

Ganwyd yn Aberpennar yn 1862. Aeth allan i'r Wladfa Gymreig gyda'i rieni yng nghwmni'r fintai gyntaf yn 1865, a daeth yn un o'r marchogwyr gorau yno, yn anturiaethwr gwrol, ac yn arweinydd medrus, cymaint felly nes ei gyfenwi fel ' Y Baceano.' Bu ar daith ymchwil i'r Paith droeon, ond y tro enwocaf oedd hwnnw yn y flwyddyn 1883, pan ymosodwyd arno gan grŵp anhysbys o bobl Frodorol yn nyffryn Kel-Kein (ymosodiad a ddigwyddodd yng nghyd-destun 'Goresgyniad yr Anialwch' gan yr Ariannin, ymgyrch a adwaenir bellach gan nifer o ysgolheigion fel hil-laddiad pobl Frodorol). Lladdwyd ei dri cydymaith cyn iddo ef ei hun lwyddo i ffoi yn wyrthiol drwy gymorth ei ebol Malacara. Arweiniodd fintai i'r Andes yn y flwyddyn 1885, pan ddarganfuwyd ' Cwm Hyfryd ' gan y gwladychwyr, ac yr oedd yn un o'r sefydlwyr Cymreig cyntaf i fynd yno yn y flwyddyn 1891.

Treuliodd weddill ei oes yno, hyd ei farw ar 6 Mawrth 1943, yn 81 mlwydd oed.

Awduron

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.