Ganwyd yn Llangynyw, Sir Drefaldwyn, mab i'r Parch. D. Evans, Llangynyw. Addysgwyd ef yn Rhydychen; graddiodd yn B.A. yn 1728, ac yn M.A. yn 1731, ac yn ddiweddarach yn D.D. Cafodd ficeriaeth gorawl Llanddwyn yn 1734 a rheithoriaeth Llanerfyl yn 1737. Yn 1737 newidiodd Lanerfyl am Lanymynech, lle y bu yn ficer am y gweddill o'i oes. Yn 1772 cafodd ganoniaeth Llanelwy. Yr oedd yn ysgolhaig gwych. Cynorthwyodd Dr. Charles Burney i ysgrifennu ei History of Music, ac Edward Jones ('Bardd y Brenin') ynglŷn ag alawon Cymreig y Musical … Relicks of the Welsh Bards. Ymysg ei bapurau, cafwyd llythyr oddi wrth un o'i gyfeillion yn gofyn am gynhorthwy yn y geiriau hyn: 'Y mae cyfaill imi o'r enw Samuel Johnson, yn son am gyhoeddi Dictionary o'r iaith Saesneg, a byddai yn rhwymedig iawn i chwi am anfon rhestr o'r geiriau Saesneg hynny sydd a'u tarddiad oddiwrth y Gymraeg.' Bu farw 1788, a chladdwyd ef yn eglwys Llanymynech, lle y mae cofgolofn farmor iddo.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.