EVANS, DAVID (1793 - 1861), lliwiedydd gwydr

Enw: David Evans
Dyddiad geni: 1793
Dyddiad marw: 1861
Rhiant: Mary Evans
Rhiant: David Evans
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: lliwiedydd gwydr
Maes gweithgaredd: Celf a Phensaernïaeth
Awdur: Mary Gwyneth Lewis

Bedyddiwyd ef 21 Ebrill yn Llaneglwys, Llanllwchaiarn, Sir Drefaldwyn, mab David a Mary Evans. Prentisiwyd ef i Mr. (wedi hynny Syr) J. Betton o'r Amwythig; yn 1815 daeth yn bartner â Betton. Gwaith Evans oedd y ffenestri lliwiedig ym mhlas Hawkstone Park, Sir Amwythig, a gynlluniwyd yn gywrain ganddo. Rhwng 1822 a 1828 gwnaed atgyweiriadau helaeth ar ffenestri capel Coleg Winchester gan Evans a Betton, ac ystyriwyd eu gwaith ar y ffenestr fawr yn ochr ddwyreiniol yr adeilad yn nodedig am y modd y copïwyd yn ofalus gynllun y gwaith gwreiddiol a roddwyd yno gan William o Wykeham. Ceir enghreifftiau eraill o waith Evans yn ffenestr ddwyreiniol eglwys Llwydlo a wnaed gyntaf tua 1445, ac yn ffenestri eglwys gadeiriol Lincoln ac eglwys yr abaty, Amwythig. Bu Evans farw yn Amwythig 17 Tachwedd 1861.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.