Ganwyd yn Llanidloes, Sir Drefaldwyn, 2 Tachwedd 1823. Symudodd y teulu i fyw i Rhymni, sir Fynwy, yn 1825, a dechreuodd yntau weithio yn y pwll glo yn ieuanc. Ni chafodd addysg yn blentyn, ond llafuriodd i gasglu gwybodaeth a daeth yn gerddor a llenor da. Wedi priodi yn 1845, agorodd siop lyfrau, a gwnaed ef yn bostfeistr. Yr oedd yn arweinydd canu yn Ebeneser, Twyncarno, ac ef oedd un o'r arweinyddion cyntaf i berfformio'r ' Meseia ' gyda cherddorfa. Bu ei gôr yn fuddugol mewn amryw eisteddfodau, a gwasnaethodd fel arweinydd cymanfaoedd canu. Gadawodd ar ei ôl mewn llawysgrif gantawd ar ' Weddi Habacuc,' a chyhoeddwyd tonau o'i waith yn Llyfr Tonau Cynulleidfaol a chasgliadau eraill, ac yn Y Cerddor Cymreig a'r Gerddorfa. Bu farw yn 1878.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.