EVANS, JOHN EMRYS (1853 - 1931), bancwr yn Neheudir Affrica;

Enw: John Emrys Evans
Dyddiad geni: 1853
Dyddiad marw: 1931
Rhiant: Emrys Evans
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bancwr
Maes gweithgaredd: Economeg ac Arian
Awdur: Edward Morgan Humphreys

Ganwyd ym Mron y Berllan, sir Ddinbych, 1853, mab Emrys Evans, gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, adnabyddus fel Emrys Evans, Cotton Hall. Aeth yn swyddog banc, ac yn 1882 aeth i Ddeheudir Affrica. Yn ystod rhyfel Deheudir Affrica bu'n gynghorydd ariannol i'r arglwydd Roberts, pennaeth y byddinoedd Prydeinig, ac yn Awst 1900 penodwyd ef yn rheolwr Trysorlys y Transvaal ac, yn ddiweddarach, yn archwiliwr cyffredinol cyfrifon y Transvaal. Yr oedd yn gyfarwyddwr Banc Barclay (Adran Dominiwn, Trefedigaethau, a thros y Môr), ac yn is-gadeirydd bwrdd lleol Deheudir Affrica. O 1907 hyd 1910 bu'n aelod o Ddeddfwrfa'r Transvaal. Bu farw Tachwedd 1931.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.