EVANS, EVAN (1773 - 1827), gweinidog gyda'r Bedyddwyr

Enw: Evan Evans
Dyddiad geni: 1773
Dyddiad marw: 1827
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Bedyddwyr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd 3 Mehefin 1773 ym Mryn-y-gwdyn, Llanarmon (Eifionydd). Bedyddiwyd ef gan John Williams (1768 - 1825) yn Ebrill 1795, a thua 1797 symudodd i Rosllannerchrugog. Ar y pryd, gogwyddai at Sandemaniaeth, ond yn fuan penderfynodd weithio'n annibynnol ar y ddwy blaid a rannai'r Bedyddwyr yn y blynyddoedd hynny. Yn 1802, pan oedd wrth ei orchwyl yn ymyl Llanfyllin, agorodd achos i'r Bedyddwyr yn y dref; yn yr un flwyddyn dechreuodd bregethu yn y Cefn Mawr, a hefyd yn Llaneurgain (dyma'r achos cyntaf a fu gan y Bedyddwyr yn Sir y Fflint); ac yn 1805 (y flwyddyn yr urddwyd ef yn weinidog yn y Cefn Mawr) ymwelodd â Lerpwl a chododd achos Cymraeg yno, a fu'n gangen o'r Cefn Mawr hyd 1810. Atgyfododd yr achos yn Rhosllannerchrugog yn 1815. Ar daith gasglu yn Llundain, yn 1817, penderfynodd ymgymryd â gwerthu llaeth; ac yn 1819 rhyddhawyd ef o'i ofalaeth yn y Cefn Mawr a sefydlodd eglwys Gymraeg yn Llundain. Diddorol yw sylwi iddo ymuno â Chymreigyddion Llundain, ac efe a draddododd yr araith goffa ar John Jones, Glan-y-gors - fe'i hargraffwyd yn Seren Gomer, 1821 (214). Bu cryn helynt yn ei eglwys yn Llundain; mynnai rhai yno wahodd Daniel Davies (1797 - 1876) i'w bugeilio, a bu rhwyg, ond glynodd y mwyafrif wrth Evan Evans, a chododd yntau gapel yn Moorfields, 1822. Bu farw 2 Chwefror 1827, a chladdwyd yn Bunhill Fields.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/