Ganwyd yn Llandybie, 21 Ebrill 1840, mab hynaf William a Mary Evans, a brawd T. V. Evans. Dechreuodd bregethu yn 1856 gyda'r Methodistiaid Wesleaidd. Ymunodd â'r Bedyddwyr yn 1857. Ar ôl cyfnod yn academi Brynmawr, aeth i Goleg Pontypŵl yn 1858. Ordeiniwyd ef yn Llangynidr, sir Frycheiniog, 1861, ac yno priododd Frances Williams. Mudodd i'r Unol Daleithiau yn 1866, ac aeth yn fugail ar yr eglwys Gymraeg yn Scranton, Pennsylvania (1867-70). Yna troes i'r weinidogaeth Saesneg, a bu yn ei dro yn fugail ar eglwys Laight Street a'r Eglwys Ganol yn Forty-second Street, Efrog Newydd (1870-4), Eglwys Fedyddiedig Gyntaf Franklin, Pa. (1874-85), yr hen Ddegfed Eglwys, Philadelphia (1885-92), a'r Eglwys Fedyddiedig Gyntaf, Milwaukee (1892-7). Yn ystod ei fugeiliaeth yn Franklin treuliodd flwyddyn yng Nghymru yn weinidog Salem, Maesteg. Bu farw yn Llandybie, 21 Gorffennaf 1897. Yr oedd yn ŵr amlwg ymysg Cymry'r Unol Daleithiau fel pregethwr, darlithydd, beirniad, ac arweinydd eisteddfodol. Bu'n arweinydd hefyd yn yr eisteddfod genedlaethol ac eisteddfodau eraill yn ystod ei ymweliadau mynych â Chymru.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.