EVANS, HARRY (1873 - 1914), cerddor

Enw: Harry Evans
Dyddiad geni: 1873
Dyddiad marw: 1914
Priod: Edith Gwendolen Evans (née Rees)
Plentyn: Hubert John Evans
Plentyn: Horace Evans
Rhiant: Sarah Evans
Rhiant: John Evans
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerddor
Maes gweithgaredd: Crefydd; Cerddoriaeth; Perfformio
Awdur: Robert David Griffith

Ganwyd 1 Mai 1873 yn Russell Street, Dowlais, Morgannwg, mab John a Sarah Evans. Dysgodd ei chwaer iddo nodiant y tonic sol-ffa. Yn 9 oed dewiswyd ef i ganu'r offeryn yng nghapel Gwernllwyn (Annibynnol), Dowlais, a threfnodd yr eglwys iddo gael gwersi cerddorol gan Edward Laurence, Merthyr. Yn 1887 penodwyd ef yn organydd yng nghapel Bethania (Annibynnol), Dowlais. Llwyddodd i basio holl arholiadau lleol yr Academi a'r Coleg Cerddorol Brenhinol, Llundain, gydag anrhydedd. Erbyn hyn yr oedd yn awyddus am roddi ei holl amser i gerddoriaeth, ond teimlai y tad y dylai gael gwybodaeth gyffredinol dda, a chafodd le yn ddisgybl-athro yn ysgol y bechgyn, Abermorlais. Tra bu yn yr ysgol, pasiodd gydag anrhydedd arholiadau South Kensington mewn rhifyddiaeth, gwyddoniaeth, a chelfyddyd. Ar derfyn ei dymor yn ysgol Abermorlais cymerodd yr arholiad am Ysgoloriaeth y Frenhines, a safai ei enw ar ben y rhestr yn yr arholiad. Torrodd ei iechyd i lawr, a gorfu iddo roddi'r bwriad o fynd i goleg i fyny. Yng Ngorffennaf 1893 enillodd y radd o A.R.C.O., ac o hyn ymlaen rhoddodd ei amser yn llwyr i wasanaeth cerddoriaeth.

Yn 1898 ffurfiodd gôr merched ym Merthyr, a chôr meibion yn Nowlais, ac enillodd y côr meibion yn eisteddfod genedlaethol Lerpwl, 1900. Ef oedd arweinydd côr eisteddfod genedlaethol Merthyr, 1901, a rhoddwyd perfformiad rhagorol o ' Israel in Egypt.' Yn 1903 enillodd y wobr o £200 yn eisteddfod genedlaethol Llanelli. Wedi hyn rhoddodd i fyny gystadlu. Yn 1903 derbyniodd wahoddiad Undeb Corawl Cymreig Lerpwl i fod yn arweinydd y côr, a rhoddwyd perfformiadau blynyddol o gyfanweithiau cerddorol y meistri gan y côr. Yn 1913 penodwyd ef yn gyfarwyddwr cerddoriaeth yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor, a'r un flwyddyn yn arweinydd lleol a chofrestrydd Cymdeithas y Philharmonic, Lerpwl. Yr un adeg gwnaed ef yn arweinydd cymdeithas gorawl North Staffordshire, ar gymhelliad Dr. McNaught, a'i hystyriai yr arweinydd corawl gorau yn y deyrnas. Yn 1914 gwahoddwyd ef i Birmingham i arwain ' Atalanta in Calydon,' a chafodd yr anrhydedd o arwain y symffoni gorawl (digyfeiliant) ' Vanity of Vanities ' (Syr Granville Bantock), a chyflwynodd y cyfansoddwr y gwaith iddo.

Meddai ar graffter arbennig fel beirniad, a gelwid am ei wasanaeth yng ngŵyliau cerddorol Cymru, Lloegr, yr Alban, ac Iwerddon. Cyfansoddodd y gweithiau cyflawn, ' Victory of St. Garmon ' a ' Dafydd ap Gwilym,' amryw anthemau a thonau, a threfnodd alawon Cymreig i gorau. Ychydig cyn ei farw dewiswyd ef gyda dau arall i olygu Y Caniedydd Cynulleidfaol at wasanaeth yr Annibynwyr, ond ni chafodd fyw i gyflawni y gwaith.

Uchelgais mawr ei fywyd ydoedd sefydlu coleg cerddorol i Gymru, a diau y sylweddolasai ei ddymuniad pe cawsai fyw.

Bu farw 23 Gorffennaf 1914, a chladdwyd ef ym mynwent Smithdown Road, Lerpwl.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.