Fe wnaethoch chi chwilio am Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray
Ganwyd ym mhlwyf Llanfairmathafarneithaf, sir Fôn. Gwehydd ydoedd wrth ei alwedigaeth. Bu'n byw yn Abererch, Chwilog, Plas Madog ym mhlwy Clynnog, a Phenygroes, Sir Gaernarfon. Dechreuodd gystadlu mewn eisteddfodau yn gynnar ar ei oes; ysgrifennodd gywydd ar ' Cariad ' ar gyfer eisteddfod Bangor, c. 1790, ac un arall yn 1802 ar ' Drylliad y llong Minerva, Ionawr 21, 1802.' Ceir swm o'i waith yn y North Wales Chronicle, Corff y Gaingc, Blodau Arfon, Tywysog Cymru, Y Gwladgarwr, etc. Cyhoeddwyd tair neu bedair o gerddi o'i waith - e.e., ' Achwyniad Hywel o'r Yri wrth Wragedd Gwynedd am dderbyniad Morgan Rondl a gwrthodiad Syr John Haidd o'r Gadair Seneddol.' Bu farw ym Mhenygroes rywbryd ar ôl mis Mai 1840.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.