EVANS, ELLIS HUMPHREY ('Hedd Wyn '; 1887 - 1917), bardd

Enw: Ellis Humphrey Evans
Ffugenw: Hedd Wyn
Dyddiad geni: 1887
Dyddiad marw: 1917
Rhiant: Mary Evans (née Morris)
Rhiant: Evan Evans
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Eisteddfod; Barddoniaeth
Awdur: William Morris

Ganwyd 13 Ionawr 1887, mab hynaf Evan a Mary Evans, yr Ysgwrn, Trawsfynydd. Yn yr ysgol elfennol a'r ysgol Sul y rhoed iddo hynny o gyfleusterau addysg a gafodd, ond ymroes beunydd i'w ddiwyllio'i hun. Amlygodd yn gynnar ei duedd at farddoni, a chafodd bob swcwr gartref. Yr oedd ei dad yn dipyn o fardd gwlad, ac felly ei daid o ochr ei fam. Urddwyd ef â'r enw ' Hedd Wyn ' mewn arwest ar lan Llyn y Morynion. Enillodd y gyntaf o'i chwe chadair yn y Bala yn 1907. Daeth yn ail orau gyda'i awdl i ' Ystrad Fflur ' yn Aberystwyth yn 1916. Yn nechrau 1917 ymunodd fel preifat â'r ' Royal Welch Fusiliers, 15th Battalion.' Cyn ymuno â'r fyddin yr oedd ei awdl ' Yr Arwr ' ar y gweill ganddo, a chyfansoddodd fwy na'i hanner yn Nhrawsfynydd. Gorffennodd hi yn y gwersyll yn Litherland, a'i phostio o Ffrainc. Pan alwyd ei ffugenw ('Fleur-de-lis') yn eisteddfod genedlaethol Birkenhead, Medi 6, hysbyswyd ei farwolaeth; syrthiasai ym mrwydr Cefn Pilkem, 31 Gorffennaf. Cyhoeddwyd cyfrol o'i ganeuon, Cerddi'r Bugail, yn 1918. Defnyddiwyd yr elw a gaed oddi wrthi, a thanysgrifiadau eraill, i godi cerflun coffa iddo yn Trawsfynydd, gwaith L. S. Merrifield. Cafwyd ail argraffiad o'r Cerddi yn 1931. Hoffter ' Hedd Wyn ' oedd barddoni, ac wrth gystadlu y dysgodd ac y gloywodd lawer ar ei grefft. Carai Drawsfynydd â'i holl galon.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.