Ganwyd 4 Awst 1870 yn Llandysul, Sir Aberteifi, yn ail fab i David Evans, lledrwr, a Margaret Jones. Addysgwyd ef yn ysgol ramadeg Tysul, Llandysul, a Choleg Aberystwyth, ac enillodd radd B.A. (Llundain) yn 1892 a M.A. (Llundain) yn 1894. Priododd Annie, merch Thomas Griffiths, Aberystwyth. Penodwyd ef (1895) yn brifathro cyntaf ysgol sir y bechgyn, Trallwng, ac yn 1897 yn brifathro cyntaf ysgol sir Llangefni, swydd a ddaliodd hyd nes iddo ymddeol yn 1935. Wedi hynny preswyliai ym Mhorthaethwy ac yno y bu farw 2 Ebrill 1938 a'i gladdu ym mynwent gyfagos Llandysilio. Am 40 mlynedd a mwy bu S. J. Evans yn dra blaenllaw ym mywyd addysgol Cymru. Yr oedd yn Eglwyswr blaenllaw. O 1934 hyd 1937 ef oedd ysgrifennydd pwyllgor geiriau'r llyfr emynau newydd, Emynau'r Eglwys, a gyhoeddwyd yn 1941. Yn 1929 fe'i hanrhydeddwyd â'r O.B.E. Dyma'r gweithiau cyhoeddedig a ysgrifennodd neu y bu iddo ran yn eu paratoi: The Elements of Welsh Grammar (arg. 1af, 1899; 10 argraffiad); Welsh and English Exercises adapted for use with the author's Elements of Welsh Grammar (arg. 1af. 1903; dau arg.); Welsh Parsing and Analysis, 1907; The Latin Element in Welsh, 1908; Questions on Evans' Welsh Grammar, etc., with Notes, 1908; Studies in Welsh Phonology, 1909; Studies in Welsh Grammar and Philology (d.d., c. 1909); The Curricula of Secondary Schools, 1925; golygydd Drych y Prif Oesoedd (Guild of Graduates Welsh prose reprints, rhif 2), arg. 1af, 1902; ail arg. Rhan I, 1927, Rhan II, 1932); cyfieithydd Crynhodeb Byr o Gyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru … (fersiwn Gymraeg o Frank Morgan, A Short Summary of the Constitution of the Church in Wales), 1920; awdur erthyglau mewn gwahanol gylchgronau.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.