EVANS, JOHN (1770 - 1851), tirfesurydd, ysgolfeistr, rhifyddwr, a cherddor

Enw: John Evans
Dyddiad geni: 1770
Dyddiad marw: 1851
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: tirfesurydd, ysgolfeistr, rhifyddwr, a cherddor
Maes gweithgaredd: Crefydd; Economeg ac Arian; Addysg; Peirianneg, Adeiladu, Pensaerniaeth Forwrol ac Arolygu Tir; Gwasanaethau Cyhoeddus a Chymdeithasol, Gweinyddiaeth Sifil
Awdur: Robert David Griffith

Ganwyd yn Rhuddlan. Clochydd eglwys Rhuddlan oedd ei dad, a chyflawnodd yntau yr un gwaith. Yn 16 oed dechreuodd gadw ysgol. Yr oedd yn ysgolhaig gwych, a deuai disgyblion ato o bell i gael gwersi mewn rhifyddiaeth a morwriaeth. Cyhoeddodd ddau Cyfrifydd Parod ('Ready Reckoner'), un at brynu a gwerthu ŷd, a'r llall at fesur coed a teisi gwair. Yr oedd yn gerddor enwog, a chwaraeai y sielo yn yr eglwys. Bu ei anthem ' O, deuwch i'r Dyfroedd ' yn boblogaidd, a'i donau ' Myfyrdod ' a ' Rhuddlan.' Ysgrifennodd a pharatodd lyfr ar ' Drysawd ' ('Thorough Bass') a chasglodd donau i'w hargraffu, ond aethant ar goll wrth eu hanfon i'r argraffydd. Bu farw 31 Mawrth 1851.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.