EVANS, JOHN (1770 - 1799), teithiwr ac asiant trefedigaethol Sbaenaidd

Enw: John Evans
Dyddiad geni: 1770
Dyddiad marw: 1799
Rhiant: Anne Evans (née Dafydd)
Rhiant: Thomas Evans
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: teithiwr ac asiant trefedigaethol Sbaenaidd
Maes gweithgaredd: Teithio
Awdur: David Williams

Ganed yn Waunfawr, Sir Gaernarfon - fe'i bedyddiwyd 14 Ebrill 1770, yn fab Thomas Evans, cynghorwr gyda'r Methodistiaid, ac Anne, merch Evan Dafydd, yntau'n gynghorwr gyda'r Methodistiaid. Yn 1792 cytunodd ag Edward Williams ('Iolo Morganwg') i fynd gydag ef ar daith i ymweled â'r 'Indiaid Cymreig' tybiedig y dywedid eu bod yn byw yng nghyrion uchaf yr afon Missouri. Pan dynnodd ' Iolo ' yn ôl o'r anturiaeth aeth Evans ymlaen ei hunan, gan gyrraedd Baltimore ar 10 Hydref 1792. Cychwynnodd tua'r gorllewin ym mis Chwefror 1793 trwy Philadelphia o Fort Pitt, gan fynd i lawr yr afon Ohio ac i fyny'r Mississippi cyn belled â St. Louis. Yr oedd llywodraethwr Sbaeneg St. Louis, Don Zenon Trudeau, yn ddrwgdybus ohono, ac fe'i cadwodd yng ngharchar, eithr cafodd Evans ei ryddhau ymhen amser, ac yn Awst 1795 aeth gyda James Mackay ar y drydedd ymgyrch a anfonwyd gan y ' Missouri Company ' Sbaeneg i chwilio'r afon a'r wlad o amgylch iddi a darganfod ffordd trwy'r mynyddoedd i arfordir y Môr Tawel. Treuliasant y gaeaf gyda'r Mahas, ac ar 21 Tachwedd aeth Evans gyda'i letywyr ar gyrch hela ychen gwyllt a barhaodd am 25 diwrnod.

Yn gynnar ym mis Chwefror 1796 anfonwyd Evans gan Mackay i geisio pobl Ffrangeg (Canada) y ' North West Company ' a oedd wedi sefydlu gorsaf ar y Missouri ymhlith y Mandan. Ar ôl iddo deithio 300 milltir dros y tir fe'i gorfodwyd i ddychwelyd oblegid iddo ddyfod i wrthdrawiad â'r Sioux. Cychwynnodd eilwaith ar 8 Mehefin a chyrraedd y Mandan ar 23 Medi. Ymlidiodd y bobl Ffrangeg o Canada, tynnwyd y faner ' Union Jack ' i lawr a dyrchafu baner Sbaen yn ei lle. Ar wahân i un heliwr (Jacques d'Eglise), Evans oedd y dyn gwyn cyntaf i deithio i fyny'r Missouri am bellter o 1,800 milltir o'r fan y mae'r afon honno yn ymuno â'r Mississippi. Gwnaeth hefyd fap manwl o gwrs yr afon. Ar ôl treulio'r gaeaf gyda'r Mandan bu raid iddo adael yr orsaf a dychwelodd i St. Louis ar 15 Gorffennaf 1797. Parhaodd i wasnaethu Llywodraeth Sbaen, eithr bu farw yn New Orleans ym mis Mai 1799.

Awduron

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.