EVANS, JOHN ('Eglwys Bach '; 1840 - 1897), gweinidog Wesleaidd

Enw: John Evans
Dyddiad geni: 1840
Dyddiad marw: 1897
Priod: Clara Kate Evans (née Richardson)
Priod: Charlotte Evans (née Pritchard)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog Wesleaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Edward Tegla Davies

Ganwyd 28 Medi 1840, yn Tŷ Du, Eglwysbach, sir Ddinbych. Addysgwyd ef yn yr ysgol genedlaethol leol, ac yna gweithiodd ar fferm ei dad nes mynd i'r weinidogaeth. Dechreuodd bregethu yn 17 oed, ac ymhen ychydig fisoedd yr oedd pob capel yr âi iddo yn orlawn, ac yn aml fwy o'r tu allan nag o'r tu mewn. Yn ei flynyddoedd cyntaf bu amryw droeon chwithig wrth iddo geisio ymwthio drwy'r dyrfa i'r capel, a phobl yn ei geryddu am na allent gredu mai ef oedd y pregethwr, gan mor fachgennaidd ei olwg. Oherwydd ei harddwch corfforol, swyn anghymharol ei lais, bywiogrwydd ei ddychymyg, ei ddull dramatig, ei ddiffuantrwydd a'i angerdd, yr oedd ei ddylanwad ar ei gynulleidfaoedd yn anhygoel. Y mae llu o dystiolaethau am gynulleidfaoedd yn colli arnynt eu hunain yn llwyr dan ei gyfaredd, a'r pregethwr yn gorfod eistedd. Cafodd filoedd o ddychweledigion yn ystod ei oes.

Aeth i'r weinidogaeth yn 1860. Llafuriodd yn Amlwch (1860); yr Wyddgrug (1863); Lerpwl (1866); Bethesda (cylchdaith Tregarth) (1869); Lerpwl (Chester Street) (1872); Lerpwl (Shaw Street) (1875); Llundain (1878); Bangor (1886); Croesoswallt (cylchdaith Llanrhaeadr Mochnant) (1889). Aeth i'r gwaith Saesneg - Llundain (Liverpool Road) (1890). Cychwynnodd genhadaeth ym Mhontypridd (1893). Bu farw ar daith bregethu yn Lerpwl, 23 Hydref 1897.

Priododd: (1), Charlotte, merch John Pritchard, Norwood Grove, Lerpwl; a (2), Clara Kate Richardson, Ealing.

Bu ar daith bregethwrol yn America yn 1873 a 1887. Etholwyd ef i Gant Cyfreithiol ei Gyfundeb (1884), ac yn gadeirydd talaith y De (1895). Traddododd y ddarlith daleithiol (1886). Ei brif ddarlithiau oedd: ' Y Pedwar Enwad,' ' Yr Esgob Morgan,' ' Thomas Aubrey,' ' Nerth Arferiad.' Golygodd Y Winllan (1878-9). Cyhoeddodd fisolyn - Y Fwyell (1894-7) - ynglŷn â Chenhadaeth Pontypridd. Cyhoeddodd dair cyfrol o bregethau - Pwlpud Cymraeg City Road; John Wesley, ei Fywyd a'i Lafur. Cyhoeddodd ' Atgofion fy Mywyd ' yn Y Fwyell, a hanes ei daith gyntaf i America yn Yr Eurgrawn.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.