EVANS, JONAH (1836 - 1896), athro ysgol baratoi, a gweinidog Annibynnol

Enw: Jonah Evans
Dyddiad geni: 1836
Dyddiad marw: 1896
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: athro ysgol baratoi, a gweinidog Annibynnol
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg
Awdur: John Dyfnallt Owen

Ganwyd 7 Chwefror 1836 yn Llanfihangel, Sir Gaerfyrddin. Prin fu ei fanteision ym more'i oes, a bu'n gweini mewn ffermydd am flynyddoedd. Bu yng Ngholeg Caerfyrddin, 1859-61. Agorodd ysgol baratoi yn Llanybydder, 1861, a symud yr ysgol i Lansawel a'i chyfenwi yn ' Sawel Academy.' Paratôi fyfyrwyr at y weinidogaeth a galwedigaethau eraill. Bu'n flaenllaw yn sefydlu eglwys Annibynnol yn Llansawel, ac ordeiniwyd ef yno yn weinidog yn 1870. Gwasanaethai'r eglwysi ar y Sul, a darlithiai lawer ar ' Amaethyddiaeth ' ar hyd a lled y wlad. Ysgrifennodd Cofiant Evan Jones, Crugybar, 1804-78 (Llandeilo, 1883), a Y Berllan Ddiwinyddol. Bu farw 31 Mawrth 1896.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.