EVANS, LEWIS (c. 1700 - 1756), gwneuthurwr mapiau

Enw: Lewis Evans
Dyddiad geni: c. 1700
Dyddiad marw: 1756
Priod: Martha Evans (née Hoskins)
Plentyn: Amelia Evans
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gwneuthurwr mapiau
Maes gweithgaredd: Celf a Phensaernïaeth; Peirianneg, Adeiladu, Pensaerniaeth Forwrol ac Arolygu Tir; Teithio
Awdur: Mary Gwyneth Lewis

Ganwyd fel y tybir, ym mhlwyf Llangwnadl, Sir Gaernarfon. Daeth yn fesurydd ym Mhennsylvania. Yn 1749 cyhoeddodd A Map of Pensilvania, New Jersey, New York and the three Delaware Counties, yn cynnwys nodiadau ar fellt a thrydan. Ei fap mwyaf nodedig ydyw A General Map of the Middle British Colonies in America a gyhoeddwyd yn 1755; ystyrid hwn yr awdurdod pennaf ar benderfynnu ymrafael ynglŷn â ffiniau, a gwnaed defnydd helaeth ohono yn ystod y Rhyfel Saith Mlynedd. Yn yr Analysis a gyhoeddwyd gyda'r map mynegwyd syniadau gan Evans am hawliau tirol Ffrainc a arweiniodd i feirniadaeth lem arno mewn ysgrif ddi-enw yn y New York Mercury, 5 Ionawr 1756; ymhen pum niwrnod atebodd Evans trwy gyhoeddi ail draethawd. Yr oedd yn ei fryd gyhoeddi mapiau o'r holl daleithiau unigol, ond bu farw, 12 Mehefin 1756, cyn cwpláu'r gwaith; yr oedd ar y pryd yng ngharchar yn Efrog Newydd oherwydd cyhuddiad am enllib yn erbyn y llywodraethwr Robert Hunter Morris. Defnyddiwyd llawer o'i fap heb gydnabyddiaeth rhwng 1755 ac 1814 gan gyhoeddwyr mapiau yn Llundain; yn 1776 fe'i cyhoeddwyd gan Thomas Pownall gyda'i Topographical Description of North America a throsglwyddwyd yr elw i deulu Evans a oedd mewn amgylchiadau cyfyng.

Priododd Martha Hoskins (bu farw c. 1746), yn Eglwys Crist, Philadelphia ym 1743, a ganwyd iddynt ferch, Amelia, (a phlant eraill o bosib).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.