Ganwyd yng Nghaerllion ar Wysg, yn fab i THOMAS EVANS (1716 - 1774) o Faesaleg, clerigwr ac ysgolfeistr, ac yn wyr i ryw RICE EVANS na wyddys fwy na hynny amdano. Yr oedd Lewis Evans yn athro mathemateg yn y coleg milwrol yn Woolwich, ac yn F.R.S. Prin bod ei eni yng Nghymru'n cyfiawnhau rhoddi lle iddo yn y gwaith hwn, gan na bu unrhyw gyswllt rhyngddo a Chymru ond hynny, eithr hawlia ei deulu nodedig iawn grybwylliad byr. Daeth ei ail fab, ARTHUR BENONI EVANS (1781 - 1854), ysgolfeistr a llenor, yn dad i Syr JOHN EVANS (1823 - 1908), gŵr enwog fel archaeologydd ac awdurdod ar arian bath, ac i SEBASTIAN EVANS (1830 - 1909), llenor, ac artist mewn gwydr. Mab i Syr John Evans oedd Syr ARTHUR JOHN EVANS (1851 - 1941), Ceidwad Amgueddfa Ashmole yn Rhydychen, ond enwocach fyth am ei waith yn cloddio yn ynys Creta. Y mae ysgrifau ar y cwbl o'r gwŷr hyn yn y D.N.B. neu ei atodiadau, a chyfrol ar hanes y teulu, Time and Chance, gan Joan Evans (1943).
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.