EVANS, DAVID LLOYD (1861 - 1912), siopwr, trafaeliwr, a cherddor

Enw: David Lloyd Evans
Dyddiad geni: 1861
Dyddiad marw: 1912
Rhiant: Ellen Evans
Rhiant: Evan Evans
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: siopwr, trafaeliwr, a cherddor
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Cerddoriaeth
Awdur: Robert David Griffith

Ganwyd 29 Rhagfyr 1861, mab Evan ac Ellen Evans, Adwy-ddu, Penrhyndeudraeth, Sir Feirionnydd. Cafodd ei wersi cerddorol cyntaf yn nosbarthiadau John Roberts, Porthmadog, a thrwy astudio Gramadeg Cerddoriaeth ' Alawydd ' a llyfrau eraill daeth yn gerddor da. Bu ' Cân y Cryd ' a'r ddeuawd ' Mae'r byd yn llawn o ganu ' yn boblogaidd, a chafodd ei ranganau ' Trig gyda mi,' ' Oleuni Mwyn,' a'r ' Tylwyth Teg,' gylchrediad eang. Yr oedd ganddo gôr llwyddiannus yng Nghorwen, lle y bu'n trigo am beth amser, a hefyd un ym Mhenrhyndeudraeth, a chymerai ran yng ngwyl gerddorol Harlech. Gelwid arno'n fynych i arwain cymanfaoedd canu a beirniadu yn yr eisteddfodau. Bu farw 13 Rhagfyr 1912, a chladdwyd ef ym mynwent Nazareth, Penrhyndeudraeth.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.