EVANS, MARY ('Mari'r Fantell Wen'; 1735 - 1789), cyfrinwraig

Enw: Mary Evans
Ffugenw: Mari'r Fantell Wen
Dyddiad geni: 1735
Dyddiad marw: 1789
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: cyfrinwraig
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Cytunir mai o Fôn y daeth hi i Feirion, tua 1780 - yn ôl rhai, yn forwyn i offeiriad Maentwrog; yn ôl eraill, i fyw yn y Breichiau ar ochr Maentwrog o blwyf Llandecwyn. Awgrymir ymhellach mai o Sir Aberteifi yr hanoedd. Ymadawodd â'i gŵr (cyn symud o Fôn, ond odid), a chanlynodd ddyn arall. Eithr honnai hefyd ei dyweddïo i Grist; gorymdeithiodd i'r llan yn Ffestiniog mewn mantell goch, gyda gosgordd fawr, i'r 'briodas,' ac wedi hynny cynhaliwyd 'neithior briodas' mewn tafarn yn y pentref, a rhoddwyd iddi liaws o anrhegion. Ar y Suliau, gwisgai hi a'i dilynwyr fentyll gwynion, a chynhalient ddefodau ar ben y Manod a bryniau eraill. Ymledodd ei sect yn ddirfawr, yn Ffestiniog, ym Mhenmachno, ac yn ochrau Harlech - ar wahân i'w hofergoel, dywedir eu bod yn bobl ddigon diniwed a bucheddol.

Bwriodd Mari ddiwedd ei hoes yn Nhalsarnau, lle y bu farw. Yr oedd wedi cyhoeddi na byddai hi byth farw, ac am hynny cadwyd ei chorff yn hir heb ei gladdu. Ond claddu fu raid, yn Llanfihangel-y-Traethau, a gwelir ar ei bedd: 'Yma y claddwyd Mari Evans, Hydref y 28 yn y flwyddun 1789, yn 54 oed.' Bu ei dilynwyr am beth amser yn cadw darnau o'i dillad yn greiriau, ond darfu am y sect yn bur fuan.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.