EVANS, WILLIAM MEIRION (1826 - 1883), mwynwr, pregethwr, a golygydd cyfnodolion

Enw: William Meirion Evans
Dyddiad geni: 1826
Dyddiad marw: 1883
Rhiant: Mary Evans
Rhiant: Edmund Evans
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: mwynwr, pregethwr, a golygydd cyfnodolion
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Argraffu a Chyhoeddi
Awduron: Robert (Bob) Owen, Ceris Gruffudd

Ganwyd 12 Awst 1826 yn Isallt Fawr, Llanfihangel y Pennant, Sir Gaernarfon. Symudodd ei rieni, Edmund a Mary Evans, i Gatws y Parc, Llanfrothen, pan oedd y bachgen yn ifanc. Ni chafodd ddim breiniau ysgol, namyn yr hyn a ddysgwyd iddo gan ei dad ac yn yr ysgol Sul. Pan yn 15 oed dechreuodd grefydda o ddifrif. Bu'n chwarelwr yn Ffestiniog, ac yn ystod ei oriau hamdden darllenai ac astudiai yn galed.

Yn 1849 ymfudodd i Awstralia gan lanio yn Adelaide ar 19 Mai 1849. Dilynodd waith ym mwynfa gopr Yuttala, cloddfa lechi Willinga, ac yn ddiweddarach aeth i fwynfeydd copr Burrah Burrah, 100 milltir o Adelaide. Cymry gan mwyaf oedd yn gysylltiedig â'r ffwrneisiau toddi, ac yma y dechreuodd bregethu, ac efe oedd y pregethwr Cymraeg cyntaf ar gyfandir Awstralia.

Yn 1850 symudodd i Aponinga, lle y bu am flwyddyn a hanner. Yn haf 1852 ymadawodd o Dde Awstralia i weithfeydd aur Bendigo, a bu'n cloddio am aur ymysg rhai o'r cymeriadau mwyaf anhydrin. Casglodd yno tua £1,000. Dychwelodd i Gymru fis Mawrth 1853, i fyned â'i rieni a'r plant i America. Ymsefydlodd yn Apple River Elizabeth, Joe Davies Co., Illinois, yn haf 1853. Yno codwyd ef i'r weinidogaeth ymysg y Methodistiaid Calfinaidd, a llafuriodd yn galed mewn cylch eang o'r wlad honno. Tua'r flwyddyn 1857 priododd ferch i un o'r sefydlwyr Cymreig, ac agorodd fusnes yn Dodgeville, Wisconsin, gan bregethu bob cyfle a gâi. Dirwynodd ei fusnes yno i ben a dychwelodd i Illinois gan ddilyn cwrs amaethyddol drachefn, ym Mawrth 1860, a phregethai bob Sul. Bu ar y llwyfan yn sicrhau etholiad Abraham Lincoln. Ordeiniwyd ef yn weinidog rheolaidd yn Columbus, Wisconsin, 12 Mehefin, 1861. Oherwydd bod rhaid i'w wraig newid hinsawdd, dychwelodd i Awstralia, a thiriodd ym Melbourne, Mawrth 1863. Ar ôl ychydig amser symudodd i Ballarat a Sebastopol, a phenderfynodd aros yn Sinton, Lucky Woman, a Snake Valley, a chynhaliai wasanaethau crefyddol yn y capel bychan bob Sul yn yr Happy Valley. Yn Ebrill 1863 pregethodd yn oedfa'r hwyr yn Gymraeg, a gweinyddodd Swper yr Arglwydd, ac efe oedd y gweinidog Cymreig (Methodistiaid Calfinaidd) a weinyddodd y sacrament i'w gydwladwyr yn y wlad honno. Cychwynnodd ef ac eraill achosion Methodistiaid Calfinaidd yn Ballarat, Sebastopol, Melbourne, Happy Valley, a Charngham. Ar 24-6 Gorffennaf 1863 cynhaliwyd cymanfa gyffredinol Methodistiaid Calfinaidd Victoria yn Sebastopol.

Yn Ebrill 1864 rhoddodd heibio weithio fel mwynwr, ac aeth yn weinidog sefydlog eglwysi Ballarat a Sebastopol.

Cynhaliwyd eisteddfod fawr yn Castlemain a pharatôdd a phrintiodd rifyn cyntaf o'r Ymgeisydd, ond oherwydd diffyg cefnogaeth bu'r cyfnodolyn farw ar ei enedigaeth. Yr oedd hyn yn y flwyddyn 1865, y flyddyn y daeth ar ymweliad â Chymru. Dychwelodd ym Mehefin 1865 i America, lle'r aeth ei wraig yn wael; ac oddi yno dychwelodd drachefn i Ballarat a'r cylch. Penderfynwyd cychwyn cyfnodolyn bychan a deitlwyd yn Awstralydd, a chydolygai W. M. Evans a Theophilus Williams hwnnw. Daeth y rhifyn cyntaf allan Gorffennaf 1867, a pharhaodd i ymddangos yn ddifwlch hyd Chwefror 1871. Yn Hydref 1874 daeth Yr Ymwelydd, Newyddiadur Cymreig at wasanaeth y Cymry yn Victoria, New Zealand, etc., cyntaf allan ar 16 Hydref, a pharhaodd i ddod allan yn fisol hyd Rhagfyr 1876. Golygid hwn hefyd gan W. M. Evans.

Y mae'r ddau gylchgrawn yn gloddfa gyfoethog i hanes y Cymry yn Awstralia yn yr ystyr grefyddol a chymdeithasol. Evans a gychwynnodd y Cambrian Society, ac eisteddfodau mawr Ballarat. Ar ôl gweinidogaethu yn Ballarat a'r cylchoedd, ymddiswyddodd ac aeth i fyw i Bourke Street, Melbourne, lle yr agorodd siop lyfrau. Bu farw 4 Awst 1883, a chladdwyd ef yn ‘The Old Cemetery’ yn Ballarat yn 56 mlwydd oed.

Awduron

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/